2014 Rhif 2722 (Cy. 275)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) 2010 (O.S. 2010/1461 (Cy.133)) er mwyn cynnwys yn yr ardal gorfodi sifil a’r ardal gorfodi arbennig ffyrdd penodol a oedd gynt wedi eu heithrio.

Gellir cael Memorandwm Esboniadol oddi wrth: Y Gangen Orchmynion, Yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs.htm

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2014 Rhif 2722 (Cy. 275)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) (Diwygio) 2014

Gwnaed                                  8 Hydref 2014 

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       14 Hydref  2014 

Yn dod i rym                      7 Tachwedd  2014

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]).

Mae Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o’i ardal.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) (Diwygio) 2014.

(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Tachwedd 2014 ac mae’n gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) 2010

2.(1) Mae Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) 2010([3]) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraff (2).

(2) Yn lle’r Atodlen, rhodder yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

 

 

Edwina Hart

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

 

  8 Hydref 2014

 

         YR ATODLEN             Erthygl 2

              “YR ATODLEN   Erthygl 2

Yr ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil o ran tramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i’r cyfan o ddinas a sir Caerdydd ac eithrio—

(a)     traffordd yr M4 a’i ffyrdd ymuno ac ymadael a’r gerbytfordd gylchdroi (yr A4054) o amgylch Cyffordd 32;

(b)     cefnffordd yr A470 gan gynnwys ei ffyrdd ymuno ac ymadael gogleddol sy’n gyfagos i gerbytffordd gylchdroi’r A4054, o’r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sydd oddeutu 240 o fetrau i’r gogledd o gylchfan Ynys Bridge y B4262 hyd at gerbytffordd gylchdroi Cyffordd 32 yr M4 drwy’r ffyrdd ymuno ac ymadael gogleddol;

(c)     yr A48(M) o’r ffin ag ardal weinyddol Dinas Casnewydd hyd at y ffyrdd ymuno ac ymadael wrth Gyffordd Llaneirwg; a

(d)     yr A4232 o Gyffordd 33 yr M4, gan gynnwys ei cherbytffordd gylchredol, hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchdroi’r A48 wrth Groes Cwrlwys drwy’r ffyrdd ymuno ac ymadael gogleddol.”



 



([1]) 2004 p.18.        

([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.  Yn rhinwedd adran 92 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004, dynodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru, at ddibenion Rhan 6 o’r Ddeddf honno.

 

([3]) O.S. 2010/1461 (Cy.133).